Text Box: Huw Lewis AC
 Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
 Llywodraeth Cymru
 Bae Caerdydd

 

19 Ionawr 2016

Cyllideb ddrafft 2016-17

Annwyl Weinidog

Diolch am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 13 Ionawr i drafod y Gyllideb ddrafft ac am eich papur cynhwysfawr.

Blaenoriaethu ac alinio amcanion â gwariant

Mae eich cyflwyniad yn amlinellu'ch blaenoriaethau'n glir ac fe wnaethoch eu pwysleisio yn ystod eich ymddangosiad gerbron y Pwyllgor. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn pryderu bod diffyg tryloywder ynghylch y ffordd y gwneir penderfyniadau mewn perthynas â dyrannu cyllid. O ganlyniad, mae'n anodd dod i gasgliad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb mewn ffordd strategol.

Er enghraifft, bu toriadau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf yng nghyllid y sector addysg bellach, ond cafodd y sector addysg uwch ei amddiffyn. Eleni, mae'r sector addysg bellach wedi cael ei amddiffyn gan fwyaf, ond mae'r sector addysg uwch yn wynebu toriadau sylweddol. Gallai Llywodraeth Cymru fod wedi sicrhau'r un lefel o ostyngiadau mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft drwy ostyngiadau mwy graddol ar draws y ddau sector dros nifer o flynyddoedd. Nid oes esboniad llawn wedi cael ei roi ynghylch rhesymeg y Llywodraeth am y ffordd y mae wedi gweithredu, ac mae'r diffyg tryloywder hwn yn golygu nad yw bob amser yn eglur a yw'r Llywodraeth yn blaenoriaethu mewn ffordd strategol neu ond yn ymdopi â diffygion o flwyddyn i flwyddyn. Mae'r Pwyllgor hefyd yn pryderu y gallai'r diffyg gwaith strategol sydd i'w weld yn yr enghraifft uchod gael effaith sylweddol ar allu'r sectorau cyfan i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

O ran y diffyg dyraniadau cyllideb dangosol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, mae'r Pwyllgor yn nodi'r rhesymau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, o ystyried yr amgylchiadau ariannol bregus mewn nifer o sefydliadau, bydd y fath ansicrwydd yn ei gwneud yn arbennig o anodd iddynt gynllunio ar gyfer y dyfodol, a pharatoi ar gyfer gostyngiadau mewn cyllid os bydd rhaid.

Mae'r Pwyllgor yn bendant o'r farn bod yn rhaid i gyllidebau Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ganlyniadau ac y dylai systemau monitro cadarn fod yn sail iddynt. Cyfeiriodd y Gweinidog at enghreifftiau o werthusiadau annibynnol o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Grant Amddifadedd Disgyblion a gwaith y mae Estyn yn ei wneud. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn credu ei bod yn hanfodol ymgorffori monitro yn y broses o roi polisïau ar waith. Mae gwerthusiadau allanol o bolisïau yn ddefnyddiol ac i'w croesawu, ond dylai'r rhain fod yn ychwanegol i'r gwaith monitro mewnol trylwyr y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn pryderu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith cynllunio ariannol digon trylwyr ar gyfer rhoi polisïau ar waith. Er enghraifft, yn ystod proses y gyllideb y llynedd, dywedoch eich bod yn rhagweld y gallai adnoddau cyfredol fodloni'r newidiadau yn natblygiad proffesiynol parhaus athrawon. Fodd bynnag, yng Nghyllideb ddrafft 2016-17, mae cynnydd pellach o £5.65 miliwn wedi cael ei ddyrannu i'r Fargen Newydd.

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod eich papur yn cynnwys alldroeon rhagamcanol ar gyfer 2015-16. Yr alldro rhagamcanol, fel yng nghyfnod 8, yw tanwariant o £94 miliwn (5.9%) yn y DEL Adnoddau yn 2015-16. Byddwn yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth am y mater hwn, gan gynnwys y rhesymau dros y tanwariant rhagamcanol, manylion y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn, ac esboniad o'r hyn a fyddai'n digwydd i unrhyw arian sydd heb ei wario.

Targedu cronfeydd tuag at amddifadedd a/neu gyflawniad isel

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod Llywodraeth Cymru unwaith eto eleni wedi ceisio blaenoriaethu cyllidebau sy'n canolbwyntio ar dorri'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad. Y prif ddulliau ariannol i wneud hyn yw mentrau'r Grant Amddifadedd Disgyblion a Her Ysgolion Cymru.

 

Y Grant Amddifadedd Ysgolion

Mae'r Pwyllgor yn cydnabod ei bod yn anodd priodoli canlyniadau penodol i'r Grant hwn gan ei fod yn un o nifer o ymyriadau yn y maes polisi hwn. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu na all Llywodraeth Cymru asesu gwerth am arian y rhaglen hon yn llawn, ac felly na all sicrhau bod disgyblion cymwys yn cael y canlyniadau gorau o'r cyllid sylweddol sydd wedi'i ddyrannu i'r rhaglen.

Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r fenter i sicrhau bod manylion gwariant Grant pob ysgol ar gael i'r cyhoedd, ac mae'n credu y gallai'r craffu allanol ychwanegol a ddaw o ganlyniad arwain at fwy o effaith a gwerth am arian. Fodd bynnag, ceir pryderon o hyd nad yw ysgolion yn llwyr ddeall diben y Grant, ac yn wir sut y gellir ei ddefnyddio i'w lawn effaith. Pwysleisiwyd hyn yng ngwerthusiad allanol y Grant, a ddaeth i'r casgliad:

“A clearer message on whether the PDG is aimed to help close the attainment gap or to help all pupils fulfil their potential – and, as such, whether the PDG should be focused on the entire eFSM cohort, or just those whose attainment is poor – may be of value.”

Mewn perthynas â phennu dyraniad y Grant yn ôl a yw disgybl yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae'r Pwyllgor yn pryderu o hyd ynghylch effaith cyflwyno'r Credyd Cynhwysol gan Lywodraeth y DU. Rydym yn nodi sylwadau'r Gweinidog ynglŷn â thrafodaethau rhwng swyddogion, ond rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i drafod â Llywodraeth y DU i ddeall pryd y bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno a beth fydd y goblygiadau. Rydym hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi modelu mecanweithiau amgen ar gyfer pennu pwy sy'n gymwys i gael y Grant ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi gwybodaeth bellach cyn gynted ag sy'n briodol.

Mae'r Pwyllgor yn nodi lefel wahanol y Grant ar gyfer plant dosbarth derbyn (pedair oed ar ddechrau'r flwyddyn ysgol). Yn Lloegr, mae plant o'r fath yn derbyn y gyfradd 'ysgol' o £1,320, ond yng Nghymru maent yn derbyn y Grant Amddifadedd Disgyblion Blynyddoedd Cynnar, sy'n talu £300 i ysgolion am bob plentyn cymwys. Rydym yn nodi sylwadau'r Gweinidog bod yna wahaniaethau eraill, fel cyfradd uwch y Grant ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru o'i gymharu ag yn Lloegr. Fodd bynnag, rydym yn credu bod cryn botensial i ymyriadau wedi'u targedu gael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion dosbarth derbyn. Mae'r Pwyllgor yn credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi esboniad boddhaol o hyd ynghylch sut y penderfynwyd ar y swm o £300, a hefyd y dylai Llywodraeth Cymru esbonio ei rhesymeg dros gynnwys y dosbarth derbyn yng Ngrant y Blynyddoedd Cynnar, o ystyried y pwyslais y mae'n ei roi ar ymyrraeth gynnar.

Her Ysgolion Cymru

Mae'r Pwyllgor yn nodi eich ymrwymiad y bydd rhaglen Her Ysgolion Cymru yn parhau i drydedd flwyddyn academaidd yn 2016/17. Rydym yn croesawu'ch datganiad y bydd angen i'r Gweinidog cyfrifol oedi ac asesu ar ddiwedd y flwyddyn cyn ymrwymo mwy o arian. Mae'r Pwyllgor yn credu bod hyn yn beth doeth. Fodd bynnag, o ystyried eich bod wedi nodi tystiolaeth ryngwladol sy'n awgrymu bod diwygio cynaliadwy ar lefel system yn gofyn am o leiaf pum mlynedd ac felly bod ysgolion yn sicr megis dechrau ar y llwybr tuag at welliant", mae'r Pwyllgor yn pryderu bod perygl na fydd dyraniadau cyllid digonol ar gael i wireddu effaith lawn y rhaglen. Bydd hyn yn golygu na fydd gwerth llawn y buddsoddiad yn cael ei wireddu.

'Rhaglen Ddiwygio Tridarn'

Adolygiad o'r cwricwlwm

Mae'r Pwyllgor yn nodi'ch datganiad bod rhai prosiectau wedi cael eu tapro yn 2016-17 er mwyn ailgyfeirio £2 miliwn ar gyfer yr adolygiad o'r cwricwlwm, gan gyfeirio'n benodol at waith Chwaraeon Cymru a Techniquest mewn perthynas â phynciau addysg gorfforol a STEM yn y drefn honno. Rydych wedi esbonio bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ymgorffori'r meysydd hyn yn y cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn pryderu y gallai hyn greu bylchau yn y ddarpariaeth wrth drosglwyddo i'r cwricwlwm newydd. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad oes unrhyw ddisgyblion o dan anfantais yn ystod y cyfnod pontio yn sgil y gostyngiadau hyn mewn cyllid, a dylai esbonio'r camau sy'n cael eu cymryd i leddfu eu heffaith.

Mae'r Pwyllgor yn nodi eich sylwadau yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Mehefin 2015ynghylch faint o fuddsoddiad sydd ei angen yn y cwricwlwm newydd yn y dyfodol:

 

 

“[…] blaendal yw £3 miliwn, mewn gwirionedd, ar gyfer eleni, o ran dechrau ar ein gwaith.  Mae e'n hollol iawn y byddai buddsoddiad o’r math hwnnw, neu fwy, yn angenrheidiol ar gyfer pob un o'r saith neu wyth mlynedd y byddwn yn ymgymryd â'r gwaith hwn.  Mae hynny'n wir, a bydd yn rhaid i ni gymryd y cyfrifoldeb cyllidebol hwnnw.”

Hefyd, mae'r Pwyllgor yn nodi eich sylwadau i'r Pwyllgor y rhagwelir y bydd angen cyllid o £8 miliwn a £10 miliwn ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol. Mae'r symiau hyn yn llawer uwch na'r rhai y cyfeirioch atynt yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y bydd angen cyllid i roi cwricwlwm newydd ar waith, ond mae'n cwestiynu a oes rhagdybiaethau'n cael eu gwneud ac a yw amcanestyniadau'r gofynion ariannol yn ddigon cadarn. Dylai Llywodraeth Cymru bennu ei hamcangyfrif gorau o gostau yn y dyfodol ac esbonio at beth y maen nhw, yn enwedig o ystyried y gallai fod angen ailgyfeirio cyllid o brosiectau eraill i ddarparu ar gyfer y cyfnod pontio.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer athrawon (y Fargen Newydd)

Mae £5.65 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddyrannu ar gyfer y Fargen Newydd yng Nghyllideb ddrafft 2016-17. Fodd bynnag, yn ystod gwaith craffu'r Gyllideb ddrafft y llynedd, wrth gyfeirio at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus athrawon, dywedoch fod angen newid diwylliant lle nad oes angen cyllid ychwanegol, ond sydd yn hytrach yn dibynnu ar ddefnyddio cyllid presennol yn fwy effeithiol.

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael esboniad ynghylch pam mae'ch meddylfryd ar y mater hwn wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n amlwg bod yr asesiad o'r ymyrraeth y mae ei hangen, a'r adnodd ariannol sy'n ofynnol i'w chefnogi, yn anghywir a bod angen cryn dipyn yn fwy o gyllid.

Mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg, mae'r Pwyllgor yn nodi'ch ymrwymiad i wneud yn iawn am unrhyw ddiffyg rhwng incwm y Cyngor a ddaw o ffioedd cofrestru a'r swm y mae ei angen arno i ymgymryd â'i swyddogaethau craidd.

Dywedoch wrth y Pwyllgor nad ydych yn rhagweld y bydd diffyg, ond os bydd yn digwydd y bydd angen ail-broffilio'r cymorth Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae'r Pwyllgor yn gofyn am sicrwydd wrthych eich bod wedi gwneud asesiad trylwyr o effaith bosibl yr ymrwymiad hwn ac mai prin fydd effaith ailgyfeirio

 

unrhyw gyllid ar brosiectau eraill sy'n cael eu hariannu drwy'r Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Datblygiad a Chymorth Athrawon.

Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon

Mae'r Pwyllgor yn nodi nad oes dyraniad penodol yng nghyllideb 2016-17 ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon. Yn eich papur, rydych yn nodi bod y rhan fwyaf o'r agenda ddiwygio a amlinellwyd gan yr Athro Furlong yn effeithio ar ansawdd darparu rhaglenni, ac felly bod modd talu am hyn drwy'r cyllid cyfredol.

Mae'r ffaith eich bod yn nodi bod y ‘rhan fwyaf’ o'r agenda ddiwygio yn cael ei darparu drwy'r cyllid cyfredol yn awgrymu y bydd angen buddsoddiad ar gyfer rhywfaint o'r agenda. Mae'r Pwyllgor yn gofyn am sicrwydd gennych chi bod y rhagdybiaethau a'r amcanestyniadau ariannol sy'n gysylltiedig â'r diwygiadau hynny yn gadarn, o ystyried y gwnaed datganiadau tebyg mewn perthynas â'r Fargen Newydd, sydd bellach yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol yn y Gyllideb nesaf.

Grant Gwella Addysg

Mae'r Pwyllgor yn nodi mai 2016-17 yw ail flwyddyn y Grant Gwella Addysg, a gyflwynwyd yn 2015-16 fel ffordd o ad-drefnu nifer o grantiau blaenorol oedd wedi'u neilltuo i awdurdodau lleol fel un grant. Y grantiau a gyfunwyd yn y Grant Gwella Addysg newydd yn 2015-16 oedd:

§  y grant Llwybrau Dysgu 14-19;

§  grant y Cyfnod Sylfaen;

§  y grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig;

§  y grant Sipsiwn a Theithwyr;

y grant Cymraeg mewn Addysg; a'r

§  grant Effeithiolrwydd Ysgolion.

 

Torrwyd £7.5 miliwn o'r Grant Gwella Addysg cyn trosglwyddo £1 miliwn i mewn ar gyfer y rhaglenni Llythrennedd a Rhifedd. Ers 2014-15, mae'r dyraniad wedi gostwng £19.1 miliwn i £135 miliwn yng Nghyllideb ddrafft 2016-17.

 

Yn ystod trafodaethau'r gyllideb y llynedd, rhoddoch sicrwydd i'r Pwyllgor y bydd y system grantiau symlach newydd yn rhoi ystyriaeth briodol i amcanion y grantiau gwreiddiol. Ychwanegoch nad yw canolbwyntio ar hyblygrwydd yn golygu na fydd ychwanegol, awdurdodau lleol a chonsortia yn cael eu dwyn i gyfrif ar yr amcanion a'r mesurau perfformiad y cytunwyd arnynt o dan y grant. Fodd bynnag, mae'n amlwg i'r Pwyllgor na all Llywodraeth Cymru sicrhau bod amcanion y grantiau gwreiddiol yn cael eu cyflawni. Byddem yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth am drefniadau monitro'r grant cyfan, a gwybodaeth fanwl am amcanion pob un o'r grantiau a gyfunwyd yn y Grant Gwella Addysg.

Mewn perthynas â phlant Sipsiwn a Theithwyr, mae'r Pwyllgor yn nodi'r sylwadau yn yr Asesiad Effaith Integredig ar gyfer Addysg a Sgiliau:

"Bydd gostyngiad yn y pecyn cyffredinol o gyllid yn y maes hwn, a allai leihau'r effaith gadarnhaol ar nodwedd warchodedig hil a'r rhai o dan 16 oed, ond nid oes disgwyl y bydd unrhyw effaith ar unrhyw nodwedd warchodedig arall. Mae cydberthynas gref rhwng cefndir economaidd-gymdeithasol a chyrhaeddiad; er enghraifft, mae plant Sipsiwn a Theithwyr dair gwaith yn fwy tebygol o dderbyn prydau ysgol am ddim na'r cyfartaledd cenedlaethol. Felly, bydd y cyllid ychwanegol a roddir drwy'r grant amddifadedd disgyblion a'r gwaith cyffredinol i wella llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion yn lleddfu'r effaith."

Mae'r Pwyllgor yn pryderu ynghylch yr awgrymu y gellid defnyddio ffrydiau cyllid sydd i fod yn rhai ychwanegol, fel y Grant Amddifadedd Disgyblion, i wneud yn iawn am ddiffyg cyllid yn y Grant Gwella Addysg er mwyn iddo allu cyflawni unrhyw un o'i ddibenion craidd.

Y Gymraeg

Mae gostyngiad o £740,000 yn y Llinell Wariant yn y Gyllideb 'Cymraeg mewn Addysg) (ar ôl cyfrif am drosglwyddiad i mewn ar gyfer cyfrifoldebau newydd) i £18.7 miliwn. Mae'r Pwyllgor yn nodi bod disgwyl cyhoeddi gwerthusiad o'r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym mis Mawrth 2016. Mae'r Pwyllgor yn credu bod yr amseru yn anffodus a byddai'n ddiolchgar o gael cadarnhad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ailgyfeirio cyllid yn ystod y flwyddyn, gan ddibynnu ar ei hymateb i'r gwerthusiad.

Addysg bellach

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y gyllideb ôl-16 trwy roi arian gwastad wedi'i ddiogelu i'r Llinell Wariant yn y Gyllideb 'Darpariaeth Addysg Bellach' sy'n cyllido dyraniadau i golegau a'r chweched dosbarth mewn ysgolion. Felly, mae'n parhau i fod yn £400 miliwn.

Mae'r cyfyngiadau ar gyllid addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith na ddylid ei diystyru ar y sector. Fel rydych yn ei gydnabod, mae'r effaith wedi bod yn arbennig o arwyddocaol ar fyfyrwyr rhan-amser:

“As expected the impact of the reduction in funding for part time students is much higher [than for full-time]. The number of part time hours is set to reduce by around 800,000 hours (21.88 per cent) in 2015/16. If the average part time course is around 100 hours per learner, this equates to 8,000 learners, although it’s expected that the majority of part time courses ceased will be the shorter courses and hence this number could rise significantly. Information shared by the chair of ColegauCymru Finance Directors shows that the sector is expecting redundancies of around 850 people as a result of reduced budgets by 2015/16.”

Mae'r sefyllfa dysgu rhan-amser wedi newid yn llwyr o ganlyniad i'r gostyngiadau mewn cyllid dros y blynyddoedd diwethaf. Byddem yn ddiolchgar o gael gwybodaeth bellach am y camau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r toriadau yn y sector yn cael effaith andwyol parhaus ar ddysgwyr.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn nodi gostyngiad o 10% yn y gronfa ariannol wrth gefn. Dylai'r Gweinidog fonitro effaith y penderfyniad hwn a byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech roi manylion iddo am y gwerthusiad mwyaf diweddar o'r cynllun.

Addysg Uwch

Mae'r Pwyllgor yn nodi'r gostyngiad o £20 miliwn i gyllidebau rhaglenni CCAUC, sy'n darparu cyllid ar gyfer gweithredu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym meysydd ymchwil o ansawdd, pynciau rhan-amser a phynciau drud. Er bod y cyllid ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dod o Linell Wariant wahanol yn y Gyllideb, CCAUC sydd hefyd yn ei ddarparu ac mae'r effaith ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn aneglur. Rydych yn dweud mai CCAUC, yn y pen draw, ddylai benderfynu sut y mae'n dyrannu ei adnoddau yn unol â blaenoriaethau Gweinidogol.

Mae'r Pwyllgor yn credu ei bod yn anodd iawn asesu effaith bosibl toriadau heb ddeall beth fydd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Byddem wedi disgwyl i chi allu rhoi syniad gwell i'r Pwyllgor a'r sector o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.  Rydym yn nodi y dywedoch wrth y Pwyllgor hwn y byddwch yn blaenoriaethu cyrsiau rhan-amser; dywedodd y Prif Weinidog wrth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y byddai'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn flaenoriaeth. Mae angen eglurder cyn gynted â phosibl i alluogi'r sector i baratoi ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Pwyllgor yn nodi'r hyn rydych chi'n ei ddweud am y tueddiad o incwm cynyddol i'r sector addysg uwch mewn cyfnod o gyni cyllidol a'r wybodaeth a gyflwynwyd yn eich papur. Mae hyn yn bennaf oherwydd ffioedd dysgu. Mae'r Pwyllgor yn pryderu ynghylch darpariaeth sy'n dibynnu ar gyllid grant drwy CCAUC, yn lle incwm ffioedd dysgu, neu ar ben incwm o'r fath. Mae'r Pwyllgor felly'n pryderu bod risg y bydd y gostyngiad mewn cyllid yn cael effaith anghymesur ar rai sefydliadau sy'n arbenigo mewn darparu cyrsiau rhan amser, ymchwil a phynciau drud fel meddygaeth, deintyddiaeth a'r celfyddydau perfformio. Ar ben hyn, mae'n debygol o gael effaith andwyol anghymesur ar ddysgwyr benywaidd a hŷn, sy'n manteisio ar y math o ddarpariaeth ran-amser sy'n debygol o gael ei lleihau.

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth am eich blaenoriaethau i CCAUC a sut rydych chi'n credu y gellir lleddfu effaith y gostyngiadau hyn.

Asesiadau Effaith

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi paratoi asesiad effaith integredig eto eleni. Byddem yn ddiolchgar pe gallech hysbysu'r Pwyllgor a oes asesiad effaith ar y Gymraeg wedi'i gynnal, yn benodol mewn perthynas ag Addysg a Sgiliau ac, os nad oes, sut y mae cyllideb ddrafft yr Adran yn diogelu'r Gymraeg yn ddigonol ac yn sicrhau cynnydd y Gymraeg. 

Byddem yn ddiolchgar hefyd o gael gwybodaeth bellach am sut rydych wedi rhoi 'sylw dyledus' i hawliau plant yn ystod y broses o bennu'r Gyllideb ddrafft, a sut cafodd effeithiau datblygu cynaliadwy a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 eu hystyried yn y gyllideb ddrafft Addysg a Sgiliau.

 

 


Ann Jones AC
Cadeirydd